Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mawrth, 12 Rhagfyr 2023
Amser y cyfarfod: 13.30
------
Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
(30 munud)
Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
3 Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Ansawdd Dwr
(30 munud)
4 Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Hawl ar gyfer Dysgu Proffesiynol
(30 munud)
5 Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Newid Hinsawdd
(30 munud)
6 Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar ‘Mwy na geiriau 2022-27’ - Tynnwyd yn ôl
(0 munud)
7 Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Trefniadau Uwchgyfeirio ac Ymyrraeth ar gyfer gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
(30 munud)
8 Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Diweddariad ar sefydlu'r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil a chyhoeddi datganiad blaenoriaethau Gweinidogion Cymru - Tynnwyd yn ôl
(0 munud)
9 Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd Amrywiol) (Diwygio) (Cymru) 2023
(10 munud)
NDM8439 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd Amrywiol) (Diwygio) (Cymru) 2023 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 29 Tachwedd 2023.
Dogfennau Ategol
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
10 Cynnig Cydsyniad Offeryn Statudol ar y Rheoliadau Deddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023 (Diwygio Canlyniadol) 2023
(15 munud)
NDM8438 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Senedd Cymru yn cytuno, yn unol â Rheol Sefydlog 30A.10, fod yr Ysgrifennydd Gwladol yn gwneud Rheoliadau Deddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023 (Diwygiad Canlyniadol) 2023 yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Hydref 2023
Gosodwyd y Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Hydref 2023 yn unol â Rheol Sefydlog 30A.2.
Dogfennau Ategol
Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig)
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
11 Cyfnod pleidleisio
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mercher, 13 Rhagfyr 2023